Am

Ymunwch â ni bob dydd Sul drwy gydol gwyliau'r haf am amrywiaeth o ffilmiau animeiddiedig i blant. Bydd ffilmiau gwahanol o bob cwr o'r byd yn cael eu dangos bob wythnos.  

11:00 - Dangosiadau ffilmiau sy'n ystyriol o bobl ag awtistiaeth, gydag ychydig iawn o olau, clustogau meddal, a nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. 

Mae amddiffynwyr clustiau ar gael o'r dderbynfa. Gofynnwch i'n tîm cyfeillgar am ragor o wybodaeth.  

Ffoniwch yr oriel ar 01792 516900 900 i gael manylion y ffilm neu e-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk   

Mae'n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn  

Am ddim. Does dim angen cadw lle. Mae croeso i bobl o bob edran.