Am

Prosiect wythnosol yw Edafedd sy’n creu cysylltiadau rhwng cymunedau sy’n frwd dros sgiliau crefft traddodiadol. 

Dewch i gymdeithasu, rhannu a chreu gyda’ch gilydd bob dydd Mawrth yn ystod y tymor. 

Wrth ganolbwyntio ar rannu sgiliau a gwybodaeth, nod y gweithdai yw addysgu technegau ymarferol a defnyddiol lle nad yw iaith a phrofiad yn rhwystr i gymryd rhan. 

Gallwch ymweld â’r arddangosfeydd cyfredol, mwynhau paned a gweithio ar eich prosiectau tecstilau eich hun mewn man croesawgar a hamddenol. 

Gyda chefnogaeth tîm dysgu’r oriel, mae Threads yn darparu cyfleoedd i weithio ar y cyd ar brosiectau tymor byr sy’n gysylltiedig â’n rhaglen arddangosfeydd 

£3.00. Darperir yr holl ddeunydd. 

Mae’n rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein   

 

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion. 

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.   

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.   

Ffôn: 01792 516900     

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk    

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma