Am
Dydd Sadwrn 1 Mawrth
11am-12:30pm| 7+| £7
Clychau Gwynt
Ymunwch â ni yn yr oriel am fore o grefftau tymhorol i’r teulu. Ar ôl gaeaf hir ac oer, pa ffordd well o groesawu awyr iach y gwanwyn a dathlu Dydd Gŵyl Dewi na chreu clychau gwynt hyfryd gyda’ch gilydd fel teulu. Cewch gynnwys symbolau cenedlaethol Cymru fel Cennin Pedr a’r Ddraig Goch wrth greu addurn swynol hyfryd ar gyfer eich cartref a’ch gardd.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.