Am

Wedi'i ysbrydoli gan ein harddangosfa newydd, Trysorfa’r Ann Francis, bydd y gweithdy hwn yn llawn antur.

Gwrandewch ar straeon cyffrous am smyglwyr, llongddrylliadau, trysor coll, a mapiau dirgel, ac archwiliwch chwedlau Cymreig am drysor cudd.

Yna gadewch i'ch dychymyg redeg yn rhydd i greu map trysor eich hun gan ddefnyddio sbeisys go iawn, a darganfod straeon am fforiadau a chynhwysion egsotig, sy'n werth eu pwysau mewn aur!

- Bydd y digwyddiad yma yn dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Oed 4+