Am

CODA - A Tribute to Led Zeppelin yw'r grŵp teyrnged mwyaf triw i Led Zeppelin, gan efelychu pŵer, cyffro ac athrylith sioe Led Zeppelin mewn modd digyffelyb.

Dyma'r unig grŵp teyrnged go iawn yn Ewrop sy'n cynnwys pedwar aelod ac sy'n dynwared golwg a seiniau Led Zeppelin i'r dim, gan gynnwys offerynnau dilys yn ogystal â gwisgoedd replica anhygoel a wnaed â llaw a fydd yn mynd â chi yn ôl i'r amser pan oedd cewri'r byd roc yn teyrnasu!

Mae pob sioe'n cynnwys detholiad gwych o ganeuon clasurol Led Zeppelin fel 'Whole Lotta Love', 'Stairway to Heaven', 'Rock and Roll', 'Black Dog', yn ogystal â chaneuon nas clywir yn fyw mor aml fel 'When the Levee Breaks', 'Ramble On', 'Wanton Song' a llawer mwy. Gall y grŵp hefyd berfformio amrywiaeth eang o ganeuon acwstig Led Zeppelin fel 'Going to California' a 'That's the Way', gan ychwanegu at yr arlwy bob blwyddyn.

Caiff sioe CODA ei hysbrydoli gan y recordiadau stiwdio, yn ogystal â recordiadau byw swyddogol (ac answyddogol!) er mwyn cyflwyno pob agwedd ar waith Led Zeppelin i chi.

Os ydych yn hoffi band teyrnged i Led Zeppelin sy'n meddu ar wallt hir, sy'n cyflwyno holl symudiadau llwyfan a chyffro'r band gwreiddiol, sy'n rhoi mwy o sylw i fanylion na'r un grŵp cyffelyb, yn ogystal â chanwr mor amryddawn a phwerus â Robert Plant, gitarydd sy'n gallu dynwared Jimmy Page, drymiwr a chanddo ymdeimlad a phŵer John Bonham a basydd sy'n gallu chwarae sawl offeryn fel John Paul Jones, byddwch yn dwlu ar y band teyrnged hwn!