Am
Just so we're clear, she said, I know the rules of confession. What I say cannot be repeated. Not to anyone...
Pan adawodd Mack O'Brien ei gartref ym Mhort Talbot ar gyfer y coleg offeiriadol pan oedd yn ei arddegau, nid oedd yn dychmygu y byddai'n ôl ddegawd yn ddiweddarach, heb ei ordeinio ac yn ansicr o hyd am yr hyn sy’n gyfystyr â bywyd moesol. Mae’n derbyn swydd fel swyddog diogelwch yn y gwaith dur lleol ac yn dechrau’r broses anodd o bontio i’r byd roedd wedi’i wrthod gynt. Pan fo dynion y gwaith dur yn trefnu streic ddigynsail i brotestio yn erbyn toriadau swyddi, nid yw’n gweld rheswm dros beidio ag ymuno â nhw.
Y person olaf y mae Mack yn disgwyl ei weld yn y clwb lleol yw Siwan Roderick – y fenyw a ymddangosodd yn annisgwyl un diwrnod yn y coleg offeiriadol i gyffesu a’i roi ef ar ei lw i gadw cyfrinach. Cadwodd Mack at ei air. Ond wrth i ddiwrnod y streic agosáu, ac wrth iddo ddechrau deall yn llwyr yr hyn y mae
Siwan yn ei gynllunio, mae Mack yn cael ei orfodi i gwestiynu ei ffyddlondeb iddi a holi a oes erioed modd cyfiawnhau gweithred o drais.
Ynglŷn â'r awdur... Mae Jon Doyle yn awdur sy'n byw ym Mhort Talbot, de Cymru. Bu’n rhan o gynllun Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2022/23 ac enillodd wobr awduron dosbarth gweithiol Writers & Artists 2023. Mae ganddo raddau BSc ac MRes mewn Swoleg ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae ei waith wedi ymddangos yn Short Fiction, Hobart, Ploughshares Online, The Rumpus, 3:AM Magazine, Critique: Studies in Contemporary Fiction ac mewn mannau eraill. Mae wedi'i enwi'n un o nofelwyr newydd y flwyddyn 2026 gan The Observer. Communion yw ei nofel gyntaf.
Mewn partneriaeth â siop lyfrau Cover-to-Cover ac Atlantic Books *Sylwer: cyflwynir y digwyddiad yn Saesneg.
Rydym yn croesawu cyn-fyfyriwr ysgrifennu creadigol Prifysgol Abertawe, Jon Doyle, yn ôl i ddathlu rhyddhau ei nofel gyntaf drawiadol, Communion. Cafodd yr awdur o Bort Talbot ei enwi’n ddiweddar gan The Observer fel un o'i wyth nofelydd newydd gorau'r flwyddyn a bydd yn rhoi arsylwadau ar greu'r hyn a ddisgrifiwyd gan Colin Walsh, awdur Kola, fel 'Nofel gyntaf ddi-fefl gyda baw o dan ei hewinedd.'