Am

Dewch i gael blas ar fyd llawn ysblander cerddorol pur.

Dyma ddathliad gogoneddus o un o'r diddanwyr gorau erioed. Mae'r cynhyrchiad syfrdanol hwn yn anrhydeddu etifeddiaeth Barry Manilow - eicon byd-eang sydd wedi gwerthu mwy nag 85 miliwn o recordiau ledled y byd.

Mae'r canwr o fri rhyngwladol Martyn James wrth wraidd y sioe ddisglair hon ac mae ei bresenoldeb grymus ar y llwyfan a'i feistrolaeth leisiol anhygoel yn dod â chatalog bytholwyrdd Manilow yn fyw mewn modd trawiadol ac athrylithgar. Mae'n cyflwyno pob nodyn yn angerddol, yn fanwl gywir ac yn driw iawn i'r gerddoriaeth sydd wedi diffinio cenedlaethau.

Dyma ddigwyddiad theatraidd mawr sy'n fwy na chyngerdd gyffredin.

Bydd band byw nodedig yn gwefreiddio'r gynulleidfa, ochr yn ochr â dawnswyr deinamig a golygfeydd godidog sy'n creu gwledd i'r synhwyrau. Mae'r holl ganeuon ysgubol wedi'u saernïo'n gelfydd i'ch galluogi i ymgolli mewn ysblander cerddorol pur.

Dewch i ail-fyw'r clasuron bythgofiadwy: Mandy, Copacabana, Can't Smile Without You ... a rhestr hirfaith o ganeuon poblogaidd sydd wedi goroesi prawf amser.

Gallwch ddisgwyl alawon anhygoel, coreograffi o safon ac awyrgylch ysblennydd, hiraethus a gwefreiddiol. 

 

Dylai pawb sy'n dwlu ar Manilow ddod i'r sioe hon.

Cyflwynir caneuon enwog ar eu newydd wedd mewn modd mawreddog.

Cadwch eich lle ar gyfer noson fythgofiadwy o adloniant o'r radd flaenaf.


Ymgollwch yn y gerddoriaeth. Ymhyfrydwch yn y sioe. Dewch i fwynhau cerddoriaeth y canwr penigamp mewn ffordd unigryw.