Am

Mae Craig Revel Horwood yn drysor cenedlaethol. Beirniad mwyaf hirhoedlog rhaglen Strictly Come Dancing BBC 1 yw meistr y belen ddisglair. Ar ôl dechrau fel dawnsiwr, bu'n gweithio ar sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y wlad a daeth yn goreograffydd, yn gyfarwyddwr ac yn awdur lwyddiannus. Mae Craig hefyd yn ganwr go arbennig ac i ddathlu rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, Revelations, bydd yn datgelu ei ddawn gudd yn ystod noson wych o ganeuon mawr, straeon celwydd golau a glamor.