Am
Dydd Mercher, 1 Ebrill, 10am–12pm
Perffaith ar gyfer plant 8–12 oed, ond mae croeso i bobl o bob oedran a gallu.
Dewch i roi cynnig ar greu cerddi gweledol fel cerddi cuddio geiriau a cherddi collage. Byddwn yn cael ein hysbrydoli gan Dylan Thomas a’r byd naturiol i greu cerddi sy’n defnyddio geiriau a delweddau, gan wthio ffiniau cerddi go iawn.
Gweithdy yw hwn sy’n cynnig cyfle i greu, ysgrifennu a bod yn greadigol drwy ailgylchu. Gallwn sgwrsio am sut mae’r gweithgareddau hyn yn helpu ein hymdeimlad o les ac yn ein galluogi i feddwl yn greadigol – yn debyg iawn i Dylan pan baentiodd jiráff ac acrobat ar y traeth!
Mae Ffion Jones yn Ymarferydd Creadigol o Abertawe a chanddi gefndir mewn ysgrifennu creadigol, celfyddydau perfformio ac arferion therapiwtig.
Cadwch eich lle am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/dylanthomas
Mae croeso i oedolion ymuno â’u plant! Mae’n rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim.
Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.