Am
Ymunwch â'r ysgrifennydd, y darlunydd a’r cyflwynydd radio a theledu gwych, Siôn Tomos Owen i greu eich cymeriadau llyfr comig eich hun!
Mae'r gweithdy dwyieithog hwn ar gyfer plant rhwng 7 a 12 oed a'u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd iau ymuno ond efallai bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gan oedolyn; mae croeso i blant hŷn hefyd! Cyfyngir pob sesiwn i bedwar grŵp o hyd at chwe oedolyn neu blentyn sy'n cymryd rhan; dylai fod un neu fwy o oedolion yn cymryd rhan ym mhob grŵp. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.
Am ddim.
Archebwch fwrdd eich teulu drwy'r ddolen hon: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre