Am

Ymunwch â ni am weithdy llawn hwyl i'r teulu! Gan weithio gyda thri artist gwahanol, cewch gyfle i arbrofi â thechnegau crefft amrywiol (fel gwifr, gwydr a phapur) a chreu eich symudyn pwrpasol eich hun i'w arddangos yn falch yn eich ffenestr neu gartref.

Mae'r gweithdy hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, a gynhelir ledled y ddinas gan Gyngor Abertawe. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu crefftau o bob math – ni waeth a ydych yn arbrofi â hen sgiliau crefft neu brosesau newydd, rydym yn gobeithio y byddwch yn cael amser da!

Am ddim.

Gweithdy i'r Teulu – awr a hanner

Gwybodaeth am Arweinwyr y Gweithdy

Lowri Ann

Mae Lowri Ann yn artist amlddisgyblaethol a gafodd ei geni a'i magu yn Abertawe. Enillodd radd BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Goldsmiths. Mae ei gwaith wedi'i ysbrydoli gan ei gwreiddiau Cymreig ac mae'n archwilio ffeministiaeth, gwleidyddiaeth, cymuned, hanes a thraddodiad.

Mae ei phrosiect ‘Malurion’ yn defnyddio traddodiad cerfio llwyau caru, ac anogir aelodau'r gynulleidfa i greu eu llwy garu eu hunain fel ffordd o ailddarganfod a thanio traddodiad.

Weixin Liu

Mae Weixin Liu, a aned yn Tsieina, wedi byw yn Abertawe ers blynyddoedd lawer. Mae'n frwd dros hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd yn ehangach ac yn fwy ystyrlon yn y gymuned.

Mae Weixin wedi gweithio fel artist yn y gymuned ers sawl blwyddyn, gan ddefnyddio ei sgiliau creadigol i ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli eraill. Mae'n ymroddedig i rannu ei sgiliau a'i gwybodaeth ac mae'n ymhyfrydu mewn grymuso eraill drwy fynegiant creadigol.

Lisa Burkl

Mae Lisa Burkl (a aned yn Llanelli ym 1967) yn artist cyfryngau cymysg sy'n arbenigo mewn gwaith gwydr. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio o Ynysmeudwy yng Nghwm Tawe fel artist, darlithydd gwadd a hwylusydd celf yn y gymuned.

Ers cymhwyso mewn Gwydr Pensaernïol ym 1991, mae Lisa wedi dylunio a chreu comisiynau, wedi arddangos gwaith mewn lleoliadau megis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a'r Ffwrnes, Llanelli, ac wedi arwain gweithdai mewn ysgolion, prifysgolion, orielau a mannau cymunedol. A hithau'n athrawes gymwysedig sy’n meddu ar BA mewn Gwydr Pensaernïol a Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae wedi cydweithredu'n helaeth ar brosiectau celf gyfranogol, gan weithio'n aml gydag elusennau i gefnogi lles drwy greadigrwydd.

Mae Oriel Mission yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru wrth gyflwyno celfyddydau gweledol cyfoes, yn enwedig crefft. Fe'i hariennir yn rhannol drwy fod yn aelod o bortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru, gan hefyd greu incwm drwy godi arian, manwerthu, llogi lleoliadau a ffïoedd gweithdai. Ein cenhadaeth yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau diwylliannol drwy gynnig cyfleoedd ystyrlon yn y celfyddydau gweledol i'r rhai hynny na fu ganddynt lawer o fynediad atynt yn hanesyddol. Rydym yn cyflawni hyn drwy gydweithredu i gynnig rhaglenni arddangos ac allgymorth sy'n uchelgeisiol yn artistig, sy'n gynhwysol ac sy'n benodol i Gymru.

Mae gan Oriel Mission achrediad y Cynnig Cymraeg ac mae'n gweithredu'n ddwyieithog.

Tocynnau

AM DDIM

*Un tocyn fesul grŵp teulu o hyd at bedwar o bobl

Un tocyn fesul teulu. Cyfyngir pob tocyn i bedwar aelod o deulu.

Slot 1: 10am-11.30am (mae chwe thocyn ar gael)

Slot 2: 12pm-1.30pm (mae chwe thocyn ar gael)

Slot 3: 2:30pm- 4pm (mae chwe thocyn ar gael)

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025