Am

Gweithdai creadigol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref.

Dydd Iau, ddwywaith y mis, 10:00-12:00 

08.01.26, 22.01.26, 05.02.26

Dosbarth celf agored sy’n archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac yn ymateb iddynt. Trwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd, plant sy’n derbyn addysg gartref a’r rheini sy’n chwilio am her newydd.

Arian – 13-17 oed

Mae haen Arian Criw Celf yr Ifanc yn datblygu ar y syniadau a archwiliwyd yn haen Efydd Criw Celf yr Ifanc, ond gyda mwy o bwyslais ar ddatblygu eich personoliaeth artistig unigryw eich hun. Yn y dosbarth cewch eich cyflwyno i amrywiaeth eang o gyfryngau a syniadau celf, a byddwch yn cael mwy o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ymarferol yn ogystal â’ch sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu llafar. Cynigir y cyfle i gyfranogwyr Arian ennill y cymhwyster achrededig Gwobr Arian Arts Award.

Sylwer bod ffi ychwanegol o £2.50 y sesiwn ar gyfer y cyfranogwyr hynny sydd am ennill Gwobr Arian Arts Award. Mae’n rhaid cadw lle. Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.

 

Gwobr Arian Arts Award: £15.00 / £22.50

Dyddiadau: 08.01.26, 22.01.26, 05.02.26

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

 

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.  

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.  

Ffôn: 01792 516900    

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk   

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma