Am
Gweithdai creadigol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref.
Dydd Iau, ddwywaith y mis, 10:00-12:00
08/01/26, 22/01/26, 05/02/26, 19/02/26, 05/03/26, 19/03/26
Dosbarth celf agored sy’n archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac yn ymateb iddynt. Trwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd, plant sy’n derbyn addysg gartref a’r rheini sy’n chwilio am her newydd.
Efydd – 10-12 oed
Yn y grŵp Efydd cewch gyfle i arbrofi a datblygu’ch sgiliau gydag amrywiaeth o gyfryngau celf gwahanol. Ochr yn ochr â hyn cewch eich cyflwyno i fwy o ymchwil, myfyrdod, trafodaeth ac ysgrifennu i wella’ch dealltwriaeth o artistiaid a phrosesau celf. Bydd holl gyfranogwyr Efydd Criw Celf yr Ifanc yn cael y cyfle i ennill y cymhwyster achrededig Gwobr Efydd Arts Award.
£15.00 am 3. £30 am 6
Dyddiau:
08/01/26, 22/01/26, 05/02/26,
19/02/26, 05/03/26, 19/03/26
Mae’n rhaid cadw lle.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein