Am

O ddydd Gwener 28 Chwefror i ddydd Sad 1 Mawrth 2025 ar draws canol y ddinas, bydd gŵyl Croeso'n dathlu popeth Cymreig yn Abertawe.

Diwylliant Cymreig lleol o’r radd flaenaf, gan gynnwys:

Bwyd a Diod
Arddangosiadau coginio
Cerddoriaeth fyw
Adloniant ar y stryd
Gweithdai
Celf a chrefft
Gorymdaith Dewi Sant
Gweithgareddau i blant

Ewch i Sgwâr y Castell Abertawe i glywed sŵn hyfryd cerddoriaeth Gymreig cyn symud ymlaen at Stryd Rhydychen, lle gallwch flasu bwydydd a diodydd Cymreig, a gweld nwyddau gwych o waith llaw. Peidiwch â cholli’r arddangosiadau coginio!

Gallwch fwynhau digon o ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ac adloniant byw. Gallwch hyd yn oed ddweud Shwmae ac ymgolli’ch hun yn yr Iaith Gymraeg, bydd digonedd o gymorth i’r rheini sy’n dysgu (neu sy’n ystyried dysgu) Cymraeg.