Am

Mae dathliad Croeso Cyngor Abertawe yn dychwelyd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, gyda'r digwyddiadau Croeso x Nightworks yn cynnig rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas.

Gyda'r nos ar y 1af o Fawrth, mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae sioe acwstig arbennig yn Nhŷ Tawe. Wedi dros ddegawd o ganu ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel un o berfformwyr acwstig amlycaf Cymru. Yn hanu o Arfon, fe'i magwyd yn y traddodiad Eisteddfodol, a dros y blynyddoedd fe ddatblygodd ei ddiddordeb mewn canu gwerin a hen ganeuon a cherddi. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o'r hen a'r newydd, a'i lais a'i berfformiadau yn symud yn ddiymdrech rhwng y swynol a melfedaidd i'r gwyllt ac amrwd.

Yn chwarae cyn Gwilym bydd Llio Heledd, cerddor o Dreforys, Abertawe yn wreiddiol. Astudiodd yn Aberystwyth ac Utrecht a bellach mae'n byw yng Nghaerdydd. Yno, dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda'r gitâr, a cheisio'r gynghanedd. Gwelir defnydd o'r modd hynafol yma o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf "Afon" sy'n adlewyrchiad ar brofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe fel plentyn ifanc.