Am

Croeso x Nightworks - rhaglen fywiog o gigs dwyieithog mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn dod i'r amlwg o ddyfnderoedd sin gerddoriaeth gynyddol Caerdydd, ac yn etifeddion i’r traddodiad storïwyr eu gwlad, mae Slate. Mae'r grŵp pedwar aelod yn ail-ddychmygu sylfeini gothig new-wave, gan wefru eu sain â grym melodig ac angerdd post-pync. Cafodd eu senglau cyntaf, "Tabernacl" a "St Agatha", ganmoliaeth yn yr NME, Clash, So Young, DIY a mwy, yn ogystal ag ar y radio gan Huw Stephens a Steve Lamacq ar BBC 6Music, a Jack Saunders ar BBC Radio 1. Mae adfer hunaniaeth Gymreig, a chariad at farddoniaeth sydd wedi'i blethu yn eu perfformiadau byw, yn ddylanwadau sy'n cyflwyno Slate fel artistiaid diddorol ac angenrheidiol.

Yn ymuno â Slate mae Los Blancos a’u roc slacyr melodig, y pedwarawd roc-amgen VAIN, a Pypi Slysh, prosiect 6 aelod Sam Stevens a Siôn Teifi Rees o Geredigion sydd hefyd yn cynnwys aelodau o Mellt a Slate.