Am

Gwerthu mas, bydd nifer cyfyngedig iawn o docynnau ychwanegol ar gael ar y drws.

Croeso x Nightworks - rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Am ddim!

Ar nos Sadwrn yr 28ain o Chwefror bydd gig ar y cyd gan Twat Union a HMS Morris yn lleoliad yr Elysium.

Mae'r grŵp pync a chomedi ffeministaidd, Twat Union, yn dod â'u hiwmor nodweddiadol, pryfoclyd a'u sioe gynhwysol i Abertawe fel rhan o'u taith o’r DU.

Mae HMS Morris yn fand sy’n ffynnu ar groesffordd celf-bop, theatrigrwydd ac archwilio di-ofn. Mae eu perfformiadau byw bythgofiadwy wedi’u harwain ledled y byd - o Texas i Tokyo a Toronto, ac i lwyfannau Gŵyl Green Man, Glastonbury, Other Voices a llawer mwy - gan syfrdanu cynulleidfaoedd gyda chymysgedd unigryw o anhrefn llawen a cherddoriaeth fanwl grefftus.

Yn ymuno â nhw ar y bil hwn a gyflwynir mewn cydweithrediad â Mioe Creative Productions a R*E*P*E*A*T Records bydd The Nanaz a’u harddull pync wedi’i ysbrydoli gan X-Ray Spex, a pop swnllyd Flatcat.