Am

Cwpan Paffio Calon y Ddraig

Mae'r ddraig yn deffro yn Abertawe.

Gallwn bellach gyhoeddi'n swyddogol y cynhelir digwyddiad Cwpan Paffio Calon y Ddraig yng nghanolfan hamdden yr LC, Abertawe dros dridiau cyffrous - 17, 18 a 19 Gorffennaf 2026

Dyma fydd y TWRNAMAINT PAFFIO AMATUR MWYAF ERIOED A GYNHALIWYD YNG NGHYMRU.

Cystadleuaeth o safon. Cyffro di-baid. Bydd paffwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt yn camu i mewn i'r cylch paffio i weld pwy sy'n haeddu bod ar y brig.

Mae'r lleoliad, sydd yng nghanol dinas Abertawe, yn agos at arfordir trawiadol, mannau hardd enwog a dewis arbennig o fwyd a diod sy'n golygu bod y digwyddiad yn cynnig llawer mwy na thwrnamaint yn unig.

Beth am fanteisio ar y cyfle i dreulio'r penwythnos cyfan yma? Mae gwestai fforddiadwy o fewn pellter cerdded yn ogystal ag atyniadau sy'n addas i deuluoedd, Dinas sy'n berffaith ar gyfer pobl sy'n dwlu ar baffio yw hon!

Nid digwyddiad paffio yn unig yw hwn, mae'n DDATGANIAD.

Os ydych chi'n uchelgeisiol, am fwynhau cystadleuaeth go iawn neu am i'ch enw gael ei gofio.

CWPAN PAFFIO CALON Y DDRAIG - LLE MAE PENCAMPWYR YN CAEL EU CREU.