Am
Dydd Gwener 16 Hydref 2026 - Dydd Sul 3 Ionawr 2027
10:00 am - 4:30 pm
Glynn Vivian gyda’r Hwyr: 15 Hydref 2026, 5:30pm – 8:00pm
Curadwyd gan Peter Finnemore. Arddangosfa CELF
Ochr yn ochr ag Arian, aelwyd, atgofion mae Finnemore wedi curadu arddangosfa bartner, sef Cymdogion: Ymylon, cyrff, perthyn, a gyflwynir yn Ystafelloedd 8 a 9. Gan ddefnyddio gwaith o gasgliadau Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Oriel Gelf Glynn Vivian, mae’r arddangosfa’n dod â chelfweithiau hanesyddol a modern gan artistiaid gan gynnwys Robert Frank ynghyd. Cânt eu dangos ochr yn ochr ag artistiaid cyfoes dethol rhyngwladol ac o Gymru.
Drwy’r detholiad cyfoethog ac amrywiol hwn, mae’r arddangosfa’n archwilio themâu ffiniau a pherthyn, yr aruchel a bywyd bob dydd, bywyd domestig a’r dosbarth gweithio, a’r ffyrdd y mae amser yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o bobl a lle. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o brosiect CELF (Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru) sy’n rhannu casgliadau cenedlaethol ledled Cymru.
Gyda’i gilydd, mae Arian, aelwyd, atgofion a Cymdogion: Ymylon, cyrff, perthyn archwilio themâu tirwedd, cof a pherthyn, gan ddangos gallu unigryw Finnemore i gysylltu hanesion personol â naratifau cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Mae’r artistiaid yn cynnwys Kathryn Ashill, Frank Brangwyn, Sebastian Bruno, Common Culture, Huw Alden Davies, Geraint Davies, Peter Finnemore, Kaylee Francis, Robert Frank, James Govier, Mohamed Hassan, Hanna Ijäs, Alfred Janes, Glyn Jones, Lucia Jones, Thomas Jones, Gwen John, Marja Marlene Lechner, Joehari Lee, Kelly O’Brien, John Petherick, Jonathan Powell, Clémentine Schneidermann a Charlotte James, Evan Walters, Craig Wood a Tom Wood, ymhlith eraill.
Mae Cymdogion: Ymylon, cyrff, perthyn yn rhan o CELF – menter Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru – sy’n ceisio rhannu casgliadau’r genedl â chynulleidfaoedd ledled Cymru.