Am

Mae'n fraint fawr i mi, Arglwydd Faer Abertawe, gefnogi elusennau lleol yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd. Ymysg y digwyddiadau allweddol rwyf wedi penderfynu eu dewis i gefnogi Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer yw cyngerdd elusennol.

Bydd y gyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Meibion Dynfant, dau ganwr sy'n creu argraff yn y byd cerddorol, Rhys Hunter a Penelope George, yn ogystal â Chôr Ysgol Gynradd y Crwys. Trefnir y gyngerdd i godi arian ar gyfer dau achos teilwng iawn: y clwb Forget me Not yng Nghilâ a chanolfan blant Stepping Stones, Abertawe. Mae'r ddau sefydliad yn darparu gwasanaethau hanfodol a chymorth i'n cymuned, a'n nod yw sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu.

Rhoddir pob ceiniog a godir drwy'r gyngerdd hon i'r clwb Forget Me Not yng Nghilâ a chanolfan blant Stepping Stones, gan sicrhau bod eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.