Am
Mae hoff gomedi sefyllfa’r genedl yn dod i Abertawe!
Dau actor, dau ficroffon, mwy na phump ar hugain o gymeriadau - a llu o effeithiau sain! Mae DAD’S ARMY RADIO SHOW yn rhoi bywyd newydd i gomedi glasurol y BBC gan Perry a Croft yn y cynhyrchiad llwyfan tra llwyddiannus hwn.
Mae’n cynnwys tair pennod wreiddiol a addaswyd yn arbennig ar gyfer taith 2024: The Love of Three Oranges; The Miser’s Hoard; a The Making of Private Pike.
Fel a welwyd ar Dad’s Army: The Animations (UKTV Gold), bydd David Benson (Goodnight Sweetheart; One Man, Two Guvnors) a Jack Lane (Wisdom of a Fool; 7 Days) yn mynd â chi yn syth yn ôl i Walmington-on-Sea.