Am
Sioe gerdd arobryn gan Theatr na nÓg am ddilyn stormydd a newid y byd, yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Ysgrifennwyd gan Geinor Styles gyda cherddoriaeth a geiriau gan Amy Wadge, wedi’i gyfieithu gan Gwawr Loader.
Dewch i gwrdd ag Emmie Price.
Bu’r 5 mlynedd ddiwethaf yn rhai stormus iddi. Mae ei byd yn cynnwys edrych ar ôl ei mam, sy’n dioddef o anhwylder deubegynol, dilyn diddordeb angerddol mewn corwyntoedd a gwneud yn sicr ei bod yn llwyddo yn yr ysgol. Ond, gwyr Emmie, un diwrnod y bydd popeth yn newid. Un diwrnod, mi fydd hi’n dilyn stormydd…
Pan fydd cyfle’n codi i dderbyn bwrsari i astudio yn UDA, a all hi gadw’i lle ar y cwrs ac ennill y gystadleuaeth STEM gyda’i dyfais newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy?
Wedi’i gosod yng Nghymoedd Cymru i drac sain syfrdanol gan enillydd Gwobr Grammy Amy Wadge (Thinkin’ Out Loud gyda Ed Sheeran, Un Bore Mercher) a’i pherfformio’n fyw gan gast o 8 actor gerddorion.
Cefnogaeth i ddysgwyr Cymraeg
Bydd Theatr na nÓg a Dysgu Cymraeg Bae Abertawe yn cynnal sgwrs ar Zoom gydag aelodau’r cwmni sydd wedi dysgu Cymraeg ar yr 18fed o Fedi, er mwyn paratoi ar gyfer y perfformiad. Gall dysgwyr hefyd fynychu sgwrs ar ôl y sioe ar y 25ain ac mae taflenni geirfa ar gael i ganiatáu i chi baratoi’n llawn i fwynhau’r perfformiad.
Addas ar gyfer dysgwyr ar lefelau Canolradd, Uwch a Gloywi.
Os hoffech mynychu’r sgyrsiau, cysylltwch â rhiannon.britton@swansea.ac.uk