Am
Mae gennych 60 eiliad i adrodd eich stori am Abertawe - beth byddwch chi'n ei ddweud?
Ymunwch â ni ar gyfer y dangosiad hwn o ffilmiau eclectig 60 eiliad o hyd a gynhyrchwyd gan bobl greadigol yn Abertawe sydd wedi cyfuno ysgrifennu creadigol, elfennau gweledol, sain a golygu (gan ddefnyddio ffôn clyfar). Fe'i cyflwynir gan Charlotte James. Mae’r straeon yn amrywio o gerddoriaeth a bod yn fam i garnifalau'r gorffennol a thalu teyrnged i gymuned ystad cyngor.
Ysgrifennwr a chyfarwyddwr o gymoedd de Cymru yw Charlotte James. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y gymuned lle cafodd ei magu - yn llawn dyfalbarhad, hiwmor a chariad - ac mae'n frwd dros adrodd straeon sy'n adlewyrchu bywyd dosbarth gweithiol go iawn. Cynhyrchwyd ei ffilm fer gyntaf, Doss House, gan Maisie Williams a'i chwmni cynhyrchu RAPT, ac fe'i dewiswyd ar gyfer gŵyl ffilmiau byr Llundain yn y categori ‘They Call Us Working Class’.
Datblygwyd y rhaglen Storïau 60 Eiliad - Abertawe gan Ffilm Cymru dan arweiniad yr ysgrifennwr/cyfarwyddwr Charlotte James, gyda chefnogaeth gan Jamie Panton (gwneuthurwr ffilmiau) ac Emma Beynon (ysgrifennu creadigol). Ffilm Cymru yw'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru, sy’n ymroddedig i ddatblygu a chynnal diwydiant ffilmiau cryf yng Nghymru. Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe fel rhan o’r prosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe.
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.
Oedran: PG
(Iaith Arwyddion Prydain a chymorth clywed)