Am
Abertawe Greadigol a Screen Alliance Wales.
Dewch i fwynhau dwy raglen ddogfen fer a ffilmiwyd yn Abertawe drwy raglen Vocal Histories of Wales.
Mae Surfability yn sefydliad ysbrydoledig sy'n gwneud y môr yn hygyrch i bawb, ac yn grymuso unigolion ag anableddau i brofi rhyddid a llawenydd bod yn y môr. Fe'i cyfarwyddwyd gan Cristian, gwneuthurwr ffilmiau dall, ac mae'r stori hon yn brawf o wydnwch, ymddiriedaeth a chryfder eang yr ysbryd dynol. Mae'n ymwneud â chwalu rhwystrau, croesawu'r anhysbys a pheidio ag ildio er gwaethaf yr heriau rydych yn eu hwynebu. Cyfarwyddwyd gan Cristian Saavedra a chynhyrchwyd gan Jess Laity-Jones
Perthyn/Belonging:
Cyrhaeddodd Mrs. Lee y DU yn y 1970au. Nid oedd yn gallu siarad Saesneg ac roedd yn wynebu'r heriau o ddechrau bywyd newydd yn Abertawe. Oherwydd gwydnwch, tosturi a degawdau o waith caled, daeth yn aelod hanfodol o'r gymuned Tsieineaidd. Nawr, dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae Mrs- Lee yn asgwrn cefn ar gyfer y gymdeithas. Stori am benderfyniad tawel ac effaith barhaol yw hon.
Cyfarwyddwyd gan Amani Khan; Cynhyrchydd Cynorthwyol - Jess Laity-Jones
Mae is-deitlau ar gael.
Rhaglen gan Screen Alliance Wales yw Vocal Histories of Wales. Mae'n darparu llwyfan i'r rheini nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol i rannu eu straeon a llunio'r naratif ynghylch eu cymunedau eu hunain. Mae menter addysg a hyfforddiant Screen Alliance Wales yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn y diwydiant ffilm a theledu, gan weithio gyda sefydliadau sy'n cynhyrchu cynnwys ar gyfer y sgrin yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel Bad Wolf, y BBC a HBO.
(Iaith Arwyddion Prydain a chymorth clywed)
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.