Am

Dydd Sul 7 Mehefin 2026
11:00 am - 2:00 pm

Dewch i fwynhau ffilmiau gan artistiaid yn rhad ac am ddim ar sgrîn fawr yr Oriel!

Ffilm 60 munud o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2008 yw Only Your Eyes Are Unclosed.

Mae’r ffilm yn portreadu 60 o leoliadau trefol o gwmpas Abertawe yn yr awr cyn codiad yr haul, gan dywynnu o ganolbwynt daearyddol. Mae’r awr yn dechrau gyda’r nos mewn lleoliad yn union i’r gogledd yn Mount Pleasant, ac mae pob lleoliad dilynol yn symud o gwmpas y ddinas fel dwylo cloc, gan dreulio munud ym mhob lle wrth agosáu at y wawr.

Caiff y ffilm ei harddangos ar ein sgrin fawr yn Ystafell 1 ar ochr chwith yr Atriwm.

Dangosiad ffilm sy’n ystyriol o’r synhwyrau, 11am – 12pm

Dangosiad ffilm â disgrifiadau clywedol, 1pm – 2pm

Bydd y dangosiad yn cynnwys disgrifiadau clywedol lle bydd trac naratif wedi’i recordio ymlaen llaw yn disgrifio delweddau ar y sgrin, fel symudiadau, iaith y corff a golygfeydd sy’n newid.

Bydd addasiadau ychwanegol sy’n ystyriol o’r synhwyrau yn cynnwys:

  • Goleuadau nenfwd wedi’u gosod i lefelau isel
  • Troi’r sain i lawr
  • Dim hysbysebion na rhagluniau
  • Mae ardal ymlacio ar gael yn ein man llyfrgell oddi ar yr Atriwm.
  • Dim trefniadau eistedd ffurfiol fel y gall ymwelwyr symud o gwmpas a gwneud sŵn yn ôl yr angen
  • Mynediad i’r anabl – mae gan yr Oriel lwybrau clir 1.5 metr o led sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.