Am

Datgyfrinio Deallusrwydd Artiffisial yn y Gornel Wyddoniaeth: Ym mis Chwefror, mae ein Cornel Wyddoniaeth yn gwahodd meddyliau chwilfrydig o bob oed i ddatgyfrinio byd deallusrwydd artiffisial. Galwch heibio i: Ryngweithio â'n harddangosfeydd ar thema deallusrwydd artiffisial i weld yr hyn y mae'n gallu ei wneud, a'r hyn nad yw'n gallu ei wneud! Darganfyddwch sut mae'n effeithio ar ein bywydau pob dydd.

Bydd arddangosfeydd deallusrwydd artiffisial yn cyrraedd drwy gydol y mis, felly gallai pob ymweliad gynnig rhywbeth newydd i'w ddarganfod!

Gallwch weld y newyddion diweddaraf yma: https://www.orielscience.co.uk/general-5-2#exhibitions-1.

Cefnogir Datgyfrinio Deallusrwydd Artiffisial gan sefydliad Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), gyda datblygiadau prosiect gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy'n rhan o UKRI.

Am ddim | Addas i deuluoedd | Galwch heibio bob dydd Sadwrn a dydd Sul ym mis Chwefror: 10:00 - 16:00 - Oriau agor ychwanegol yn ystod hanner tymor: Dydd Mercher 18, dydd Iau 19 a dydd Gwener 20 Chwefror​​​​​