Am
Dros y misoedd diwethaf mae Eric Ngalle Charles wedi arwain cyfres o weithdai ar gyfer ceiswyr lloches a’n Sgwadiau Sgwennu Ifanc. Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn dod ynghyd i ddathlu gwaith creadigol y cyfranogwyr ac i ddathlu'r ffaith bod Canolfan Dylan Thomas wedi derbyn statws Dinas Noddfa'r Celfyddydau. Gallwch wrando ar farddoniaeth a straeon arbennig a chael sgwrs wych mewn amgylchedd hamddenol. Dewch i gael rhagor o wybodaeth am ein tîm Dinas Noddfa yn Abertawe a'r ffyrdd y gallwch gymryd rhan, a pheidiwch â cholli perfformiad arbennig gan Eric ei hun a'r storïwr Bevin Magama!
Am ddim, mae croeso i bawb
Caiff tocynnau bysus Abertawe eu had-dalu ar gyfer ceiswyr lloches.
Cadwch eich lle am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre