Am

Ymunwch â Founders and Co wrth iddynt gyflwyno gwersi dawnsio salsa wythnosol gydag Emma WH!

Cynhelir gwersi salsa Founders and Co bob nos Iau am 8pm ac maent yn addo noson o hwyl, rhythm a dawns. Cynhelir ein dosbarthiadau salsa i ddechreuwyr am 6 wythnos gyffrous a daw’r cyfan i ben gyda pharti salsa ar y 7fed wythnos.

Pwy all ymuno? Mae croeso i ddechreuwyr a dawnswyr o bob lefel a gallu! Does dim angen profiad.

Beth i’w wisgo? Gwisgwch rywbeth ysgafn fel nad ydych yn rhy boeth. Dewiswch esgidiau cyfforddus heb wadnau â gafael er mwyn eich helpu i deithio ar hyd y llawr yn ddiymdrech.

Partner: Dim partner? Dim problem! Bydd Emma’n sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddawnsio drwy newid partneriaid trwy gydol y dosbarth.

Cost: £5 y sesiwn yn unig. Dewch ag arian gyda chi ar y noson.

Pethau ychwanegol: Gallwch fwynhau bwyd blasus gan ein gwerthwyr bwyd tan 9pm.

Bydd y bar ar agor tan hanner nos er mwyn eich helpu i gadw’r hwyl i fynd.

Peidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn i ddysgu salsa, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl