Am

Dydd Gwener 10 Ebrill, 10am –12pm

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.  

Dewch i ymuno â ni ar gyfer y gweithdy gwych hwn i deuluoedd lle byddwn yn creu ein deunydd ysgrifennu ein hunain ar thema’r gwanwyn (a malwod!) ar gyfer ysgrifennu llythyrau a straeon. Ysgrifennodd Dylan am wylio’r malwod ym myd natur – pa fath o anturiaethau y bydd eich malwod chi’n mynd arnynt?

Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Am ddim

Gall uchafswm o 30 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre   

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.