Am
Prosiect gan IVAE (Y Gynewidfa Celfyddydau Gweledol Ryngwladol) yw Performance Art Land 2025, sydd wedi’i guradu a’i gynhyrchun benodol ar gyfer ardal benodol yng Nghymru, dwy ymgysylltu ‘i thirwedd, ei threftadaeth a’i diwylliant, ar gyfer ei chymunedau a’i chynulleidfaoedd lleol.
Dwy’r prosiect, rydyn nin cefnogi cyfathrebu trawsddiwylliannol a rhyngddisgyblaethol dwy arferion creadigol, i hyrwyddo penodolwydd safle a chynaliadwyedd safle a rhoi Ilwyfan i sefyllfaoedd argyfwng hinsawdd ac ansefydlogwydd amgylcheddol byd-eang dwy arferion celf, ac yn ein harloesiadau artistig a churadurol. Yn 2025, mae’r prosiect yn gwahodd artistiaid o Gymru, Japan a Tsieina, Angela Davies, Tsubasa Kato, Li Binyuan ac Anushiye Yarnell, i gynnal celfyddyd performio ar safleoedd naturiol a threftadaeth. Bydd y gwaith newydd yma a gomisiynwyd yn cael ei rannu dry ddigwyddiadau sgrinio mewn sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Chapter (Caerdydd) ym mis Hydref 2025, Amguedda Fotografiska Shanghai (Shanghai) ac Oriel Gelf Glynn Vivian (Abertawe) ym mis Tachwedd 2025, ac Amgueddfa Gelf Mori (Tokyo) ac Amgueddfa Gelf Busan (Busan) yn 2026.
IVAE
Mae IVAE (Y Gyfnewidfa Celfyddydau Gweledol Ryngwladol) yn sefydliad celf nid-erelw yng ngwledydd Prydain. Mae’n gweithredu fel pont unigryw i gefnogi a dathlu cyfnewidfeydd trawsddiwylliannol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin yng nghyd destun celf gyfoes. Mae’n labordy ar gyfer arloesi strategaethau curadurol a dulliau amrywiol o arferion artistig dwy gydnabod gwahaniaethau diwylliannol, safbwyntiau dealltwriaethau, ac ymagweddau wrth gyfieithu.
Angela Davies (g. 1977, Cymru)
Moon Rising, 2025
Perfformiad safle-benodol, Porth Ysgaden (harbwr penwaig) a Phorth y Cychod a thraeth Ty’n Tywyn, Llanbedrog, Cymru. Fideo un sianel, 14 munud a 22 eiliad.
Gyda themâu dychweliad ac adnewyddu, gobaith ac adfywio, mae Moon Rising yn ystyried ein lle o fewn ac y tu allan i amser. Mae rhythmau rhynglanwol yn symud gyda chorff y perfformiwr, ymchwyddiadau o fywyd wedi’u rhwymo gan ddylanwad nefol, gan sôn am ein cysylltiad cyffredin â’r môr trwy rythmau a chylchoedd: anadl, ffrwythlondeb, ymddangosiad bywyd a marwolaeth. Mae’r gwaith yn ymgysylltu mewn perthynas faterol a symbolaidd â halen, sy’n dal y pŵer i gadw, iacháu a thrawsnewid, yn bresennol yng nghorff y perfformiwr, ac yn nyfroedd Penrhyn Llŷn, Cymru.
Gan fyfyrio ar etymoleg lle, mae’r gwaith yn deillio o straeon am lafur hanesyddol y rhanbarth hwn – gan gynnwys arferion pysgota yn y gorffennol ym Mhorth Ysgaden (harbwr penwaig), Porth Cychod (harbwr cychod) a smyglo halen yn Nhy’n Tywyn (yn neu ar lan y môr). Gelwir yr arfer parhaus o bysgota am benwaig yn y cyfnod cyn lleuad lawn yn lleol yn lleuad godi.
Mae’r coreograffi wedi’i lywio gan ddisgyblaethau cyferbyniol Bale, lle mae egwyddorion craidd cydbwysedd, cydlyniad, a phwysau yn sylfaenol, a Butoh, sy’n ymgorffori’r elfennol, gwrthwynebiad i draddodiad, a chylchoedd trawsnewid. Casgliad o ddata ffynhonnell paleo-lanw o Brifysgol Bangor sy’n gyrru’r cyfansoddiad sain, gyda lleisiau gan Emma Daman Thomas, sy’n perfformio’r gân werin Gymreig o’r 18fed ganrif Tra Bo Dŵr Y Môr Yn Hallt.
Gan ddod â brwydr bywyd dyfrol yng nghyd-destun cwymp hinsawdd i ddeialog â brwydr cyrff benywaidd drwy gydol hanes, mae’r gwaith yn gofyn beth allwn ni ei ddysgu o’r perthnasoedd dyfrllyd a’r cysylltiadau mewnol cyntefig hyn (Karan Barad).
Wedi’i berfformio gan: Melissa Pasut, Cyfarwyddwyd + Cynhyrchwyd gan Angela Davies, Llais gan Emma Daman Thomas, Dylunio Sain: Angela Davies
Sinematograffydd: Jamie Quantrill, Ffilmio tanddwr gan Angela Davies, Golygwyd gan Mark Eaglen + Angela Davies
Li Binyuan (g. 1985, Tsieina)
The Process of Stones, 2025.
Performiad safle-benodol, Castell Dinas Brân, Llangollen, Cymru, 2025.
Fideo sianel sengl, 14 munud a 45 eiliad.
Fel un o gestyll hynaf Cymru, credir i Gastell Dinas Brân gael ei adeiladu ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd yn gwasanaethu fel caer strategol yn ystod cynod o wrthdaro dwys gyda’r Saeson nes iddo gael ei ddinistrio yn 1277. Ar yr un adeg yn Tsieina digwyddodd cam olaf gwrthsafiad Han yn erbyn goresgyniad y Mongoliaid, gan arwain at gwymp brenhilin Song y De yn 1279. Casglodd Li Binyuan bedwar darn mar o graig ar hyd lwyor y mynydd, a’u rhwymo iw goesau a’i freichiau, a chropian dry adfeilion y castell. Mae’r ychydig gannoedd o fetrau hynny o alldaith yn creu moment anodd lle mae breuder yn cyferbynnu a pharhauster, a’r byrhoedlog yn uno â’r parhaol. Nid casgliad o gerrig a ddarganfuwyd ar hap yn unig oedd yr hyn yr ymdrechodd Li i’w cario, ond efallai mai darnau coll o’r adfeilion, gorffennol a gafodd ei adfywio, neu bwynt cyfeirio i ddychmygu ein dyfodol.
Yng ngwaith perfformiad Li, mae Castell Dinas Brân yn ymgorffori esblygiad cened ac ysbryd ei gwydnwch, nid o reidwydd unrhyw un penodol, ond yn hytrach, cened ddynol a rennir, boed yn y Dwyrain neu’r Gorllewin yn y byd dros dro yma.
Cafodd Li Binyuan ei eni yn Yongzhou, Talaith Hunan, Tsieina yn 1985, a graddiodd o Academi Ganolog y Celfyddydau Cain yn 2011. Bellach, mae’n byw ac yn gweithio ym Merlin a Yongzhou. Mae Li yn archwilio corfforoldeb, sylwedd, amgylchedd, gwybyddiaeth gysyniadol, a gwerthoedd cymdeithasol drwy gamau corfforol, gweithiau fideo, a pherfformiadau, sy’n gwasanaethu fel y porth i wead cymdeithasol cymdeithas bob dydd.
Tsubasa Kato (g. 1984, Japan)
O bydded i’r hen iaith barhau / May the Language Endure for Ever, 2025.
Performiad safle-benodol, Sarn Helen, Aberhonddu, Cymru. Fideo sianel sengl, 8 munud a 37 eiliad.
Roedd Tsubasa Kato yn gwahodd pedwar cerddor o Gymru i chwarae anthem genedlaethol Cymru gydag amrywiaeth o offerynnau traddodiadol, gan gynnwys y delyn, y crwth, y tabwrdd, a’r pibgorn. Cynhyrchwyd y performiad yn benodol ar gyfer safle mynyddig yng Nghymru, o amgylch y maen hir chwedlonol, Maen Llia. Pan fydd y cerddorion yma wediu clymu at ei gilydd gan raffau o fewn pellter penodol, bydd symudiad un cerddor yn creu tensin rhyngddynt -tensiwn a allai amharu ar eu gallu i chwarae offerynnau. Mae cael eu cysylltu gan raffau a’u rheoli ganddynt yn troi performiad cerddorol arferol yn ffurf anghyfarwydd o fynegiant corfforol. Gall symudiad pwrpasol pob perfformir – chwarae a chanu’r nodyn cywir, neu daro’r curiad cywir – gael ei gyfyngu’n annisgwyl gan aelod arall o’r tim, ac ar yr un pryd, gall ddod yn rhwystr anfwriadol ir lleill. Mae sain dreiddgar y bibgorn, atseiniau gwerinol, bywiog y lyra, tonau crisialog y delyn a llais angylaidd y canwr yn ymdrechu i ddod at ei gilydd i greu’r anthem – Hen Wlad Fy Nhadau. Drwy fecanweithiau perfformiad, caiff ei hatal a’i rhannu, ei chyfyngu a’i hystumio, ond eto, caiff ei huno mewn ysbryd, a’i chodi gan eu pier cyfunol.
Artist cyfoes o Japan yw Tsubasa Kato sy’n cynhyrchu gweithiau fideo, ffotograffig, a gweithiau eraill sy’n cynnwys perfformiadau lle mae nifer o gyfranogwyr yn cael eu hannog i gydweithio. Mae’n cael ei glodfori’n fawr am yr astudiaethau a’r prosiectau niferus mae wedi’u cynnal ledled y byd. Mae ei brosiectau a’i osodweithiau’n herio’r gwyliwr i ail-feddwl eu synnwyr o bellter, gwydnwch, cydbwysedd a chysylltiad rhwng unigolion.
Anushiye Yarnell (g. 1976, Cymru)
Ein Harglwyddes Blodeuwedd (y naw don), 2025.
Performiad safle-benodol ar sawl safle gan gynnwys Dyffryn Ardudwy a Chors y Gedol a Thomen y Mur yng Nghymru. Fideo sianel sengl, 16 munud.
Mae gwahanol chwedlau’n codi o wahanol ddiwylliannau; maen nhw’n teithio ac yn esblygu dry amser a gofod. Fel mudwr ail genhedlaeth o Sri Lanka, mae Anushiye Yarnell yn gweld y tir yma yn gartref ac yn estron. Drwy ei pherfformiad rhyngddisgyblaethol, mae hi’n ail-ddehongli chwedl Blodeuwedd – stori garu creadur hybrid, ac yn cysylltu ffantasi a’n realiti bob dydd. Ystyriwyd nifer o leoliadau yng Nghymru yn ofalus er mwyn gallu Ilwyfannur performiad yma ar un safle theatrig. Mae’r artist wedii gwisgo mewn dillad gwyn gyda mwgwd blodeuog sy’n datgel ac yn cuddio gwahanol agweddau’r archdeip benywaidd ar yr un pryd, ffigwr sy’n ymddangos yn betrusgar neu’n bryderus, yn anfodlon neu’n benderfynol, yn performio penblethau dynol rhwng rhyddid a ffiniau, awydd a chymedroldeb, diniweidwydd a chnawdolwydd. Yn ogystal ‘r symudiadau corfforol, y llais benywaidd yn y cendir, mae darllen y penillion barddonol yn ychwanegu dimensiwn anhepgor ir naratif gweledol. Caiff y myfyrdodau artistig yma eu mynegi dwy ei dull breuddwydiol, a’u cyflwyno mewn modd agos atoch.
Wedi’i reiddio yn y cyd-destun Cymreig, mae Anushiye yn ailymweld a chysyniadau rhamant, cariad a moesoldeb dwy’r rhyngweithio rhwng corff a safle, gan archwilio rhywbeth trist ond gwerthfawr, rhithiol ond gwirioneddol, a lleol ond yn adnabyddus ar lefel ryngwladol.
Artist perfformio rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell y mae ei gwaith yn cwmpasu symudiad, sain, llais, testun, lluniadu, cyfranogiad ac addysgeg amgen. Mae ei gwaith yn ymgynnull mewn ffyrdd symbiotig, gwrth-wahaniaethol o fod. Mae’n archwilio’r rhyngblethu rhwng bydoedd breuddwydion a ffantasi gyda bywyd bob dydd, gan chwilio am y cysylltiadau rhwng profiadau bob dydd yn y byd, a’r fframweithiau anthropolegol, athronyddol, barddonol ac artistig. Mae hi’n gweithio gyda phresenoldeb cyffyrddol, gan adfywio deallusrwydd synhwyraidd drwy gyrff-bywgraffiadau mytholegau amserol, parhaus, gan geisio eu hadfywio er gwaethaf y rhwygiadau a achoswyd gan wareiddiadau trefedigaethol.