Am
Mae Abbey Players yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Taliesin eleni gyda sioe Disney Beauty and the Beast.
Amser maith yn ôl, roedd dewines wedi bwrw hud ar dywysog a’i droi’n fwystfil erchyll. I dorri’r hud, mae’n rhaid i’r tywysog ddysgu caru a chael ei garu yn ôl, cyn i’r petal olaf ddisgyn oddi ar rosyn hudol. Yn seiliedig ar ffilm lwyddiannus Disney, mae Beauty and the Beast yn adrodd stori Belle, merch o bentref bychan, sy’n mynd i achub ei thad o grafangau’r bwystfil ac, yn anhunanol, yn dewis cael ei charcharu yn ei le.
Yn y castell hudol mae Mrs Potts, Lumiere, Cogsworth a Chip yn gwylio, yn llawn gobaith, wrth i gyfeillgarwch dyfu rhwng Belle a’r bwystfil, ond mae amser yn mynd heibio. Gyda Gaston ar ei ffordd i hela’r Bwystfil, a Belle yn poeni am ei thad, a fydd y tywysog yn aros yn fwystfil am byth? Neu a fydd eu cariad yn tyfu mewn amser i dorri’r swyn gan ddychwelyd y tywysog a’i gartref yn ôl i’w ffurfiau gwreiddiol.
Gyda cherddoriaeth gan Alan Menken (Little Mermaid, Aladdin) a geiriau gan Howard Ashman a Tim Rice, mae’r stori hon sydd ‘mor hen ag amser’ yn cynnwys caneuon fel ‘Be Our Guest’, ‘Gaston’ ac wrth gwrs ‘Beauty and the Beast’
Mae wir yn sioe ar gyfer y rhai sy’n dwlu ar Disney yn ifanc ac yn hen!!