Am
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy wrth i ni ddathlu dechrau cyfnod cyffrous newydd ar Stryd Fawr Abertawe!
Wrth i ni ddathlu lansiad swyddogol Down By Here, rydym wedi sicrhau gwasanaethau rhai o berfformwyr mwyaf cyffrous Cymru ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn serennu yn yr ardal berfformio newydd yn ei holl ogoniant.
Bydd Afro Cluster, Suns of Thunder, Mari Purr a DJs yn perfformio cerddoriaeth gyffrous a detholiad arbennig o gynnyrch, gan gynnwys digonedd o gynnyrch Cymreig!
Mae hefyd nwyddau newydd sbon ar gael felly manteisiwch ar ein cynnig lansio a phrynwch grys t gyda'ch tocyn am bris gostyngol.
Bydd drysau'n agor am 7pm a bydd cerddoriaeth o 8pm. Peidiwch â'i golli!
AFRO CLUSTER
"Maent yn brawf bod y gerddoriaeth orau yn bodoli rhwng diffiniadau genre a ffiniau cenedlaethol ac y tu hwnt iddynt ac mae ganddynt enw da fel un o'r bandiau byw gorau yng Nghymru." BBC Horizons
Grŵp a anwyd yng Nghaerdydd yw Afro Cluster a ysbrydolwyd gan etifeddiaeth ffync/Afrobeat Gorllewin Affrica ac oes aur Hip-Hop. Yr ethos creadigol y tu ôl i'w gwaith yw ysgogi cariad a gobaith mewn byd cynyddol anghyfeillgar.
Yn eu catalog o gerddoriaeth gallwch glywed rhythmau cryf a chytganau jazz a atgyfnerthir gan eiriau ysgogol ac a ysgrifennwyd ac a gyflwynir gan yr arweinydd Skunkadelic.
Maent wedi derbyn clod mawr ar eu teithiau o amgylch gwyliau mawr y DU gan gynnwys Glastonbury, WOMAD, Green Man, Boomtown a Wilderness. Maent hefyd wedi perfformio sioeau i gefnogi Gilles Peterson, Hot 8 Brass, People Under The Stairs ac Ibibio Sound Machine.
Cyhoeddwyd albwm cyntaf y band 'The Reach' ym mis Chwefror 2021, ac roedd yn archwilio dryswch natur ddynol, ein perthnasoedd, ein brwydrau a chyflwr presennol y diwydiant cerddoriaeth, gan ganolbwyntio ar sut y gall meddylfryd cadarnhaol ac undod ein helpu i ddod o hyd i atebion.
DISCO PANTHER
Mae Disco Panther yn rhan annatod o fyd cerddoriaeth ffync ac maent yn enwog am eu sioeau byw unigryw nid oes modd eu credu heb eu gweld. Mae'r gerddoriaeth parti yn codi hwyliau ac yn cyffroi'r enaid ac mae'r band, sy'n rhan o fyd ffync de Cymru, yn sicr o'ch annog i symud.
"Gallwch ddisgwyl perfformiadau pres arbennig, lleisiau pwerus a chyffrous a rhythmau a fydd yn eich annog i ddawnsio"
– Frances Forbes-Edwards.
SUNS OF THUNDER
Mae Suns of Thunder yn rhan sefydlog o fyd cerddoriaeth Abertawe. Ffurfiwyd y band ym 1999 ac maent yn parhau i fod mor bwerus ag erioed. Mae eu math unigryw o gerddoriaeth yn gyfuniad o roc a ffync, a ysbrydolwyd gan Clutch a sain adnabyddus cerddoriaeth roc-pŵer y saithdegau, ac yn cyflwyno sain hollol unigryw sy'n gyfarwydd iawn yn Abertawe.
Yn ôl y sôn, maent yn gweithio ar eu halbwm diweddaraf ar hyn o bryd, ac os yw'r rhagflaenydd Start as You Mean to Get Down yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, bydd y gerddoriaeth werth yr aros.
Mari Purr
Triawd Saffig yw Mari Purr sy'n enwog am eu baledi swynol sy'n archwilio themâu cariad, colled a phoen. Gan dynnu ysbrydoliaeth o draddodiadau gwerin, mae eu perfformiadau'n enwog am benwisg drawiadol y brif gantores ac am eu presenoldeb theatrig a rhyfeddol. Perfformiodd y band ar y stryd fawr am y tro cyntaf yn ddiweddar pan oedd y lleoliad yn cael ei adnabod fel Elysium o hyd, ac rydym yn awyddus iawn i'w croesawu yn ôl i DBH.
Mae tocynnau ar gael nawr ac mae hefyd gennych yr opsiwn i brynu un o'r crysau t DBH cyntaf erioed! Mae'r crysau, sydd fel arfer yn £20, ar gael am £15 yn unig os ydych chi'n prynu tocyn hefyd - beth am fanteisio ar y cynnig arbennig hwn? Tocynnau ar gael yma: https://events.humanitix.com/down-by-here-launch-party-w-afro-cluster-suns-of-thunder-more-tba
Drysau'n agor am 7pm. Cerddoriaeth o 8pm. Bar ar agor tan 1am.