Am
Mae sêr Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat yn canu'r caneuon gorau o'r sioe wych hon!
Mae Dreamcoat Stars yn dychwelyd gyda'u 6ed daith o'r DU ac maent yn dod ag adloniant cerddorol byw anhygoel i'r genedl! Dewch i brofi noson fwyaf y DU o ganeuon ysgubol yn y gyngerdd gerddorol hon sy'n llawn sêr, gyda chaneuon a threfniannau newydd sbon. Mae'r gyngerdd yn cynnwys hoff sioeau pawb o'r West End a Broadway: Les Misérables, We Will Rock You, The Greatest Showman, Dirty Dancing, Rocky Horror, Saturday Night Fever, Mamma Mia a sioe gerdd fywiog Jersey Boys. Dewch i ail-fyw eich hoff gynyrchiadau mewn un noson wych. Teimlwch bŵer lleisiol iasol pedwar canwr trawiadol o'r sioe gerdd sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar draws y byd, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, wrth iddynt ddod ynghyd ar gyfer noson fythgofiadwy o theatr gerddorol. Mae'r cynhyrchiad hwn yn siŵr o'ch gadael yn ysu am ragor, wrth i chi ganu'ch hoff ganeuon yr holl ffordd adref.
Detholiad o ganeuon ysgubol di-dor gyda threfniadau lleisiol aruthrol, harmonïau pedair rhan anhygoel, coreograffi slic a straeon cofiadwy o amser y seren yn Joseph. Cydiwch yn eich cot amryliw ac ymunwch â ni ar daith go arbennig. Dyma sioe a fydd yn codi'ch calon mewn noson o theatr na fyddwch byth yn ei hanghofio. Prynwch eich tocynnau nawr!