Am

Agorodd ein harddangosfa Dylan Thomas barhaol, ‘Dwlu ar y Geiriau’, ar 100fed pen-blwydd Dylan, 27 Hydref 2015, o ganlyniad i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Abertawe.

Archwiliwch yr arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrandewch ar y recordiadau ac edrychwch ar y gwrthrychau gwahanol sy’n cael eu harddangos er mwyn dysgu am waith, bywyd, a chyd-destun diwylliannol un o awduron pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae’r arddangosfa hon yn addas i’r teulu ac am ddim, ac mae ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys y brif ystafell, ardal arddangos dros dro sy’n cynnwys arddangosfeydd sy’n newid, ac ardal ddysgu sydd ar agor i’r cyhoedd pan nad yw’n cael ei defnyddio ar gyfer gweithdai.

Mwy o wybodaeth