Am

Dewch i ddathlu Dydd Miwsig Cymru yn nghanolfan Tŷ Tawe! ✨

Mae Neil Rosser yn frodor o waelod Cwm Tawe sydd wedi denu ysbrydoliaeth am ganeuon allan o gymeriadau lliwgar ei fro enedigol.

Cafodd ei ysbrydoli i ganu am 'Ochr Treforys o'r Dre' ar ôl clywed cyfweliad gan Ian Dury oedd yn datgan fod gwell ganddo ganu am Watford na chanu am California. Yn yr un modd penderfynodd Neil ganu am Glydach, Glais a Bonymaen.

Bydd Neil yn chwarae set acwstig arbennig ar y noson.

+ cefnogaeth gan Hari Powell, aelod o amrywiaeth o fandiau megis Curious Orange a Pretend Poets, a fydd yn chwarae set newydd o gerddoriaeth wreiddiol Cymraeg!