Am
Ymunwch yn ein gweithdy rhyngweithiol wedi'i ysbrydoli gan un o'n harddangosion mwyaf poblogaidd! Dan arweiniad ymchwilwyr o dîm Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut gall byw ger mannau gwyrdd hybu iechyd a lles. Gan ddefnyddio dealltwriaeth o gronfa ddata GIG Cymru, byddwch yn darganfod sut mae eich amgylchedd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd a sut mae daearyddiaeth yn dylanwadu ar les cymunedol. Drwy weithgareddau ymarferol difyr, bydd teuluoedd yn dylunio eu ‘cymdogaethau perffaith’ eu hunain, gan gydweithio wrth fynd i'r afael â heriau fel newid yn yr hinsawdd ac iechyd. Mae'r gweithdy'n cynnwys gorsafoedd gweithgareddau rhyngweithiol a chyflwyniadau cryno, gan sicrhau bod pobl chwilfrydig o bob oedran yn cael profiad difyr a gafaelgar. Byddwch yn barod am lanast, a chofiwch ddod â dillad sbâr i'r rhai bach!