Am

I fabanod a phlant 0–5 oed a'u teuluoedd

Ymunwch â'r chwaraewr ffidil a'r cyfansoddwr caneuon Angharad Jenkins a'r delynores gyngerdd a'r gerddores siambr Bethan Semmens ar gyfer gweithdy hamddenol, rhyngweithiol yn arbennig ar gyfer plant bach a'u hoedolion. Mae'r sesiwn ddwyieithog hon (Cymraeg/Saesneg) yn cynnwys caneuon cyfranogol, gemau offerynnau taro a'r cyfle i fwynhau amrywiaeth o arddulliau cerddorol ac offerynnau cerdd, o ganu gwerin i gerddoriaeth glasurol.

Mae gan Angharad a Bethan brofiad helaeth drwy Live Music Now a'r Lullaby Project, ac maent yn creu lle llawen, meithringar lle gall teuluoedd ganu, chwarae a chysylltu drwy gerddoriaeth. Mae’r profiad cerddorol hwn, sy'n berffaith i fabanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol, yn un i’w fwynhau gyda’ch gilydd a’i gofio.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025