Am
Bydd y digrifwr byw sy'n mynd dan groen pawb, Ed Gamble, yn mynd ar daith arall yn 2027 ledled y DU ac Iwerddon. Felly, dewch i weld y pencampwr podledu ar y llwyfan wrth iddo gwyno am y byd a'r betws.
Ed yw cyd-gyflwynydd Off Menu, y podlediad hynod lwyddiannus, ochr yn ochr â James Acaster, a chyflwynydd sioeau deillio gweledol fel The Traitors: Uncloaked a Taskmaster The Podcast, yn ogystal â sioe newydd, Unacceptable, a ddarlledir yn ystod yr haf. Bydd taith newydd sbon Ed, Fresh Hell, yn dilyn ei daith fyd-eang fwyaf poblogaidd erioed ar draws Ewrop, Gogledd America ac Awstralasia.