Am

Mae un o ddathliadau amlddiwylliannol mwyaf poblogaidd Abertawe, Eid yn y Parc, yn dychwelyd am ei 14eg flwyddyn i’r Cae Lacrosse ym Mharc Singleton, gan addo diwrnod bywiog, cynhwysol i deuluoedd a chymunedau o bob cefndir.

Mae’r digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Welsh Islamic Cultural Association Swansea (WICAS) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti, Cyngor Abertawe, a phartneriaid gwerthfawr eraill, yn parhau i ddod â chymunedau amrywiol Abertawe at ei gilydd mewn ysbryd o ddathlu, dealltwriaeth a chydweithio.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, a groesawodd dros 2,000 o bobl - plant a theuluoedd yn bennaf – disgwylir i ddathliad 2026 fod hyd yn oed yn fwy, gyda gweithgareddau ehangach, mwy o gyfranogiad gan y gymuned a ffocws parhaus ar gynhwysiant a chyfnewid diwylliannol.

Bydd y digwyddiad cyhoeddus am ddim hwn yn cael ei gynnal rhwng 11:30am a 4:30pm, gydag ystod eang o atyniadau a gweithgareddau, gan gynnwys:

  • Reidiau chwyddadwy, cestyll neidio a gemau ar gyfer pob oedran
  • Celf Henna, paentio wynebau, reslo swmo a ras ‘byngee’
  • Amrywiaeth o stondinau bwyd ac arddangosfeydd diwylliannol
  • Bwth ffotograffau a phrofiadau cymunedol rhyngweithiol
  • Bagiau nwyddau am ddim i'r 200 o blant cyntaf (y cyntaf i'r felin)
  • Cyfleoedd i gysylltu â gwasanaethau, elusennau a sefydliadau cymunedol lleol

“Mae Eid yn y Parc yn fwy na dathliad yn unig," meddai Riaz Hassan, Cydlynydd y Digwyddiad, “Mae'n llwyfan ar gyfer adeiladu pontydd, meithrin dealltwriaeth a dathlu'r amrywiaeth sy'n gwneud Abertawe’n ddinas mor groesawgar.”

Mae Eid yn y Parc sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn, yn parhau i fod yn gonglfaen ymgysylltiad rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol yn Abertawe. Mae'r digwyddiad yn dod â gwirfoddolwyr ifanc, myfyrwyr, teuluoedd a sefydliadau lleol at ei gilydd, wrth ddarparu llwyfan hefyd i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a herio materion fel anghydraddoldeb a gwahaniaethu.