Am

Os oes un cerddor sy'n ymgorffori egni a bwrlwm yr adfywiad gwerin Saesneg presennol, Eliza Carthy MBE yw honno.   

A hithau'n ferch i gewri’r byd gwerin, Martin Carthy a Norma Waterson, cafodd Eliza ei magu wedi'i throchi ym myd cerddoriaeth draddodiadol ac o oedran cynnar cafodd ei hyrwyddo gan John Peel, Andy Kershaw a Billy Bragg.  

Yn boblogaidd gyda thraddodiadwyr cadarn ac eiconoclastiaid fel ei gilydd, mae cerddoriaeth Eliza'n croesi ffiniau genre ac arddull. Boed yn canu ar ei phen ei hun neu o flaen band mawr, yn canu baled o ganrifoedd yn ôl neu un o'i chyfansoddiadau ei hun, mae ei llais pwerus a chynnil, ei ffordd hyfryd ac angerddol o ganu'r ffidil a'i pherfformiadau gwefreiddiol wedi dylanwadu ar genhedlaeth gyfan o gerddorion ifanc. 

Wedi'i henwebu ddwywaith am Wobr Mercury a chan ennill gwobrau di-rif eraill yn ystod ei gyrfa 30 mlynedd, mae Eliza wedi perfformio a recordio ledled y byd gydag ystod amrywiol o artistiaid, gan gynnwys Paul Weller, Rufus a Martha Wainwright, Patrick Wolf a Jarvis Cocker. 

Gan ddisgrifio ei hun yn syml fel cerddor modern Saesneg, mae hi'n un o berfformwyr mwyaf dawnus, gafaelgar a phwysig ei chenhedlaeth.