Am

Mae Elsewhere, Here yn arddangos artistiaid o gymuned artistiaid Oriel Elysium Abertawe. Mae'r arddangosfa hon yn cyfuno paentiadau, cerfluniau a gosodweithiau sy'n archwilio ystyr newidiol lleoedd, perthyn a hunaniaeth.

Mae hyn yn dilyn arddangosfa lwyddiannus artistiaid Elysium yn Cork, lle crëwyd llwyfan i gynnal deialog rhwng cymunedau dan arweiniad artistiaid yng Nghymru ac yn Iwerddon, ac fel rhan o raglen gyfnewid greadigol barhaus rhwng Sample Studios (Corc) ac Oriel Elysium.

Mae Elsewhere, Here yn ymwneud ag effaith ein hymdeimlad o leoedd arnom, gan gyfnewid safbwyntiau a bod yn fan cyfarfod rhwng y cyfarwydd a'r anhysbys.

Leila Bebb | Kate Bell | Luke Cotter | Ewan Coombs | Tim Davies | Angela Dickens | Lucy Donald | Gemma Ellen | Daniel Gower | Stephen Hammett | Rory Hancock | Sophie Hancock | Bonita James | Hannah Jones | Lucia Jones | Ann Jordan | Tim Kelly | Sheree Murphy | Heidi Lucce-Redcliffe | Holly Slingsby | Tracey McMaster | Paul Munn | Graham Parker | Jonathan Powell | Euros Rowlands | Claire Staveley | Daniel Staveley | Hollie Wilkins | Dylan Williams | Melanie Wotton

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025