Am

Menter Iaith Abertawe x NAWR yn cyflwyno…

Aml-offerynwyr hudolus o fryniau hudol y Preseli yw Dewin. Wedi'u magu yn gwrando ar gerddoriaeth jazz, corawl, clasurol a chanu Mamgu, mae Jencyn Corp a Lefi Dafydd yn barod i ddod â'u chwarae technegol i'r byd pop. Yn diffinio eu cerddoriaeth fel 'wizard-pop' mae'r band yn dilyn traddodiad Gorllewin Cymru o wneud pethau eu ffordd eu hunain.

Mae Louis O'Hara yn ganwr-gyfansoddwr o Ddoc Penfro, ac mae ei gerddoriaeth yn dod o hyd i harddwch ym manylion bywyd bob dydd. Gan gyfuno naws gwerinol, telynegiaeth farddonol, ac arddull siambr-pop, mae ei ganeuon yn tynnu o gof, teulu, lle, ac emosiynau tawel. Mae ei waith wedi cael ei ddisgrifio fel hiraethus, emosiynol a thyner, gyda llais agos, didwylledd.

Y Pregethwr yw prosiect Aled Warwick, yr artist unigol o Abertawe, sy'n canu darnau o Lyfr y Pregethwr i gyfeiliant yr harmoniwm. Mae'r gerddoriaeth yn tynnu ar synau arbrofol a dylanwadau canoloesol, gan greu naws "werin-fydol" unigryw.