Am

Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Abertawe – Tŷ Tawe, Down by Here, The Bunkhouse, Hangar 18 a Hippos wedi cyhoeddi eu bod yn cymryd rhan yng ngŵyl ‘Everywhere At Once’ yr haf hwn.

Yn cael ei gynnal ar benwythnos Gŵyl Glastonbury rhwng 26 a 28 Mehefin, 2026, bydd cannoedd o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn uno o dan faner Everywhere At Once ar gyfer gŵyl fwyaf y DU. Bydd lleoliadau llawr gwlad yn Abertawe yn cynnal nifer o sioeau dros y penwythnos, yn cynnwys prif artistiaid a rhai o’r talentau mwyaf cyffrous o’r ardal leol.

Mae manylion llawn yr holl gigs, gyda diweddariadau dyddiol, ar gael trwy www.everywherefest.com Neu dilynwch @musicvenuetrust /#everywhereatonce ar y cyfryngau cymdeithasol