Am
PG
Mae cerfluniau a phaentiadau godidog Michelangelo yn ymddangos mor gyfarwydd i ni, ond beth, mewn gwirionedd, rydym yn ei wybod am gawr hwn y Dadeni? Mae athrylith Michelangelo yn amlwg ym mhopeth y gwnaeth gyffwrdd ag ef. Mae gweithiau hardd ac amrywiol megis cerflun aruthrol David, y Pietà teimladwy ym Masilica'r Pab San Pedr a'i gampwaith, nenfwd y Capel Sistinaidd, yn ein syfrdanu heddiw.
‘…feast your eyes – and your soul – on Michelangelo: Love and Death’ Mature Times
Gan rychwantu ei 88 o flynyddoedd, mae Michelangelo: Love and Death yn ein tywys ar daith sinematig drwy ystafelloedd argraffu a byw Ewrop, drwy gapeli ac amgueddfeydd mawreddog Fflorens, Rhufain a'r Fatican ar drywydd dealltwriaeth ddyfnach o fywyd tymhestlog y ffigwr eiconig hwn, ei berthynas â'i gyfoeswyr a'i dreftadaeth ryfeddol.
‘Magnificent’ Oxford Times
Drwy sylwebaeth arbenigwyr, golygfeydd ysblennydd a geiriau Michelangelo ei hun, mae'r ffilm hon yn cynnig safbwynt newydd ar artist a oedd yn feistr ar ei grefft y mae ei fywyd a'i athrylith yn cael eu dathlu ym mhopeth a wnaeth. Yn dychwelyd i sinemâu yn 2025 i ddathlu 550 o flynyddoedd ers geni'r artist eiconig hwn.