Am

Mae Fairport Convention wedi bod yn diddanu pobl sy'n hoff o gerddoriaeth ers dros hanner canrif, ar ôl cael ei sefydlu ym 1967. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r band a lansiodd roc gwerin Prydain wedi gweld llawer o newidiadau, ond mae un peth wedi aros yn gyson - angerdd Fairport am berfformio.

Yn dilyn ymweliad a werthodd bob tocyn llynedd, bydd Fairport yn dychwelyd gyda chymysgedd o ffefrynnau Fairport sydd wedi hen ennill eu plwyf a chaneuon annisgwyl o hen albymau ac albymau newydd.

Mae Fairport Convention wedi ennill Gwobr Cyflawniad Oes y BBC a  phleidleisiodd gwrandawyr Radio 2 eu halbwm arloesol Liege & Lief, 'yr albwm gwerin mwyaf dylanwadol erioed'. Dathlwyd eu stori mewn rhaglenni dogfen teledu ar BBC Four a Sky Arts.

Mae'r band yn cynnwys y sylfaenwr Simon Nicol ar y gitâr ac yn canu, Dave Pegg ar y gitâr fas, Ric Sanders ar y ffidil, Chris Leslie ar y ffidil, y mandolin ac yn canu. Bydd y cyn-aelod Dave Mattacks yn ymuno â Fairport ar y llwyfan, ar y drymiau.

Act agoriadol y daith fydd y canwr/ysgrifennwr caneuon ifanc Danny Bradley, â’i berfformiad gwych a fydd yn ffordd ddelfrydol o ddechrau’ch noson.

'Stuffing their set with a surprising amount of new material for a vintage act, Fairport are still clearly having fun and brought the house down.' The Guardian

'Fairport is an institution, a festival, purveyors of memories, and keepers of the folk flame. But most of all they are a brilliant live band.' Folk & Tumble