Am
Mae ein gweithdai 'Rwy'n gallu...' i deuluoedd yn dychwelyd ar gyfer gwyliau haf 2025 gyda gweithgareddau cyffrous i'r teulu cyfan eu mwynhau. Rhowch gynnig ar ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol wrth archwilio'r arddangosfeydd anhygoel a chasgliad Oriel Glynn Vivian.
Rwy'n gallu creu collage.... o boster ffilm arwrol
Gan ddefnyddio paentiad John Harrison, Y Bardd, fel ysbrydoliaeth, rhowch gynnig ar greu poster ffilm arwrol ar ffurf collage gan ddefnyddio’ch hun fel y prif gymeriad. Ar gyfer y gweithdy hwn bydd arnoch angen llun maint A4 ohonoch eich hun yn gwneud ystum arwrol i'w ddefnyddio ar gyfer eich collage.
Dylai’r llun fod ar ffurf portread a gellir ei argraffu gartref ar ddarn o bapur argraffu.
Gwnewch yn siŵr bod y llun yn dangos eich corff cyfan, o'ch pen i'ch bysedd traed!
Mae man tawel ar gael ym mhob sesiwn i'r rheini ag anghenion synhwyraidd, y mae angen dosbarth llai o faint ac amgylchedd dysgu tawelach arnynt.
Cynhelir y gweithdai tawel yn ystafell 2 - bore'n unig.
£3.00 y plentyn, mae’n rhaid cadw lle.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i'n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy'n ceisio lloches neu'r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i'n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cysylltwch â'r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma