Am

Mae ein gweithdai 'Rwy'n gallu...' i deuluoedd yn dychwelyd ar gyfer gwyliau haf 2025 gyda gweithgareddau cyffrous i'r teulu cyfan eu mwynhau. Rhowch gynnig ar ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol wrth archwilio'r arddangosfeydd anhygoel a chasgliad Oriel Glynn Vivian. 

Rwy'n gallu defnyddio cyfryngau cymysg i greu... map ffantasi 

Defnyddiwch gyfryngau cymysg a thechnegau arlunio traddodiadol i greu map ffantasi o ble rydych chi'n byw, gan ddwyn ysbrydoliaeth o adran Mapiau, Trothwyon a Ffiniau ein harddangosfa newydd Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain. 

Mae man tawel ar gael ym mhob sesiwn i'r rheini ag anghenion synhwyraidd, y mae angen dosbarth llai o faint ac amgylchedd dysgu tawelach arnynt.

Cynhelir y gweithdai tawel yn ystafell 2 - bore'n unig.

£3.00 y plentyn, mae’n rhaid cadw lle.  

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i'n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy'n ceisio lloches neu'r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i'n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.   

 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein    

Cysylltwch â'r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.     

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.     

Ffôn: 01792 516900       

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk      

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma