Am
Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod digwyddiad #CroesoNightworks yn dychwelyd eto eleni gyda chyfres o gigs dwyieithog, mynediad am ddim dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi!
Mae nos Iau 27 Chwefror yn gweld noson lansio gyda’r band post-punk FreeFall yn y Bunkhouse. Mae’r tocynnau AM DDIM ond rydym yn argymell archebu o flaen llaw (llefydd cyfyngedig!) 🎟️
Yn ymuno gyda FreeFall. bydd y pumawd roc-amgen Apathy Avenue, ble? a'u hegni heintus, a bydd gwesteion arbennig Broken Fires yn chwarae set acwstig i ddechrau'r ŵyl gyfan mewn steil!
Gyda Menter Iaith Abertawe