Am

AND then there were Dragons?

Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Beth mae Teigr India a Draig Cymru’n ei rannu? Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar “Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain” ond yn wahanol i’r sgyrsiau mwy seiliedig ar ymchwil y mae hi wedi’u rhoi hyd yn hyn, bydd y sgwrs hon gan Zehra yn dod o safbwynt curadurol; gan roi cipolwg i ni ar y modd y curadwyd yr arddangosfa hon ar y cyd â Katy Freer o Oriel Gelf Glynn Vivian.

Mae Dr Zehra Jumabhoy yn Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste, y DU. Yn 2025, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gyntaf Ymddiriedolaeth Berger iddi mewn Hanes Celf Brydeinig (lansiwyd gan Trinity Hall, Prifysgol Caergrawnt, a The Huntington, Califfornia). Mae hi’n hanesydd celf, yn guradur ac yn awdures sy’n arbenigo mewn celf fodern a chyfoes o dde Asia a’i gwasgariad. Mae Zehra wedi bod yn Gymrawd Ymchwil yn Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe, swydd a ariannwyd gan Paul Mellon Centre for British Art, i weithio ar yr arddangosfa “Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain.

Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3

Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin.

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein