Am

Yn y flwyddyn 2026, plymiwyd uned plymio penigamp i garchar tywyll am drosedd nad oeddent yn gyfrifol amdano. Dychlamodd y brogaod chwim a dianc i berfeddion carffosydd y ddinas. Heddiw, a hwythau dal o fewn gafael y llywodraeth llysnafeddog, maent yn goroesi'n gadarn, yn falch a'n fedrus, rhyfelwyr rhagorol yng ngrombil y ddaear. Problemau plymio'n pentyrru, neb ar gael i helpu?  Os gallwch eu canfod.....beth am alw BROGS Y BOGS!

Rhaid i'r uned plymio penigamp - Turner a Constable, ddatrys trosedd llygredd, chwalu'r MEGACLOG a threchu'r drwgweithredwr Cwac-Ty-Bach yn y gomedi amffibiaidd fawr hon.

Sleiniwch eich sbaneri, paratowch eich plynjars - Mae Brogs y Bogs yn eich angen chi!

Rhybudd: llwyth o ddom! Gall ddiddanu pobl ifanc dwl!

Ariannwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru.